Cwrdd â'r tîm

Dr Fred Labrosse
Uwch Ddarlithydd mewn Roboteg
Dr Fred Labrosse sy’n arwain ANTUR ac mae ganddo brofiad helaeth o systemau roboteg a gynllunnir i weithredu ar draws tirweddau cymhleth a naturiol.
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar alluogi robotiaid i deithio'n annibynnol dros dirwedd amrywiol ac ar hyd llwybrau, gan gynorthwyo â gorchwylion megis tirfesur, logisteg, a chraffu o bell. Un o brif themâu ei waith yw ffyrdd ymarferol o symud drwy amgylcheddau yn yr awyr agored, gan ddefnyddio camerâu yn ogystal â synwyryddion ategol gan gynnwys IMU, GNSS, a LiDAR.
Mae Dr Labrosse yn ymddiddori’n arbennig mewn ffyrdd o weithio sy’n galluogi robotiaid i gael eu tywys gan ddefnyddio llwybrau disgrifiadol y gall pobl eu deall, yn hytrach na dibynnu ar lywio ar sail cyfesurynnau yn unig. Mae'r ffocws hwnnw’n cyd-fynd â heriau defnyddio'r dechnoleg yn y byd go iawn, lle mae amgylchiadau’n newid ac yn anodd eu rheoli a lle nad yw’r mapio’n hollol berffaith.
Ac yntau’n arweinydd ANTUR, mae Dr Labrosse yn cydweithio'n agos â phartneriaid diwydiannol ac ymchwilwyr i ddylunio treialon maes sy’n ystyrlon ac i sicrhau bod profion yn darparu canlyniadau technegol y gellir gweithredu arnynt.

Dr David Jones
Darlithydd mewn Cyfrifiadureg
Mae Dr David Jones yn arbenigo mewn technolegau gefeilliaid digidol a gwybodeg beirianegol, gyda chefndir cryf mewn integreiddio systemau ar draws amgylcheddau peirianneg cymhleth. Mae ei waith yn canolbwyntio ar wella sut mae gwybodaeth beirianegol yn cael ei chreu, ei rheoli a'i defnyddio drwy gydol oes systemau ar raddfa fawr.
Mae ganddo brofiad helaeth o gydweithio â phartneriaid diwydiannol gan gynnwys Airbus a Ford, gan helpu i drosi data a gwybodaeth beirianegol i ymarfer mwy effeithiol o ran gwneud penderfyniadau a gweithredu. Un agwedd allweddol ar ei waith yw datblygu a chymhwyso dulliau efeilliaid digidol sy'n cysylltu modelau rhithwir ag asedau corfforol.
Mae gan Dr Jones ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir defnyddio integreiddio rhwng y rhithiol a’r byd corfforol i sicrhau’r perfformiad gorau posib drwy’r system gyfan, sy’n golygu gwella’r dylunio, y monitro a’r effeithlonrwydd gweithredol. Mae ei waith yn pontio rhwng datblygiadau damcaniaethol mewn gwybodeg beirianegol a gweithredu ymarferol mewn diwydiannau yn y byd go iawn.

Jason Brook
Technegydd, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Mae Jason Brook yn arbenigo ar fonitro amgylcheddol ymreolaethol ac amaeth-dechnoleg fanwl, gan ganolbwyntio ar systemau UAV ar gyfer tirweddau amaethyddol ac arfordirol. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau dronau i ddarparu data amgylcheddol ar gydraniad uchel ar gyfer rheoli tir ac ecosystemau.
Mae’n datblygu LiDAR ac ymdriniaethau synhwyro amlsbectrol a’u rhoi ar waith er mwyn helpu i asesu biomas, cyflwr cynefinoedd, a newidiadau mewn defnyddir tir, sy’n galluogi penderfyniadau amgylcheddol ar sail gwybodaeth gadarn. Yn ogystal â systemau yn yr awyr, mae'n dylunio ac yn gweithredu rhwydweithiau synhwyro LoRaWAN sy'n darparu gwybodaeth amgylcheddol ar y pryd, a hynny ar draws safleoedd gwasgaredig.
Un o elfennau allweddol o'i waith yw datblygu systemau taenu manwl sy'n defnyddio dronau, gan gynnwys technolegau gwrteithio a hadu sy'n helpu ffermwyr i weithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy gan ddefnyddio llai o fewnbwn. Mae hefyd yn chwarae rhan weithredol mewn adeiladu partneriaethau rhwng diwydiannau ac academia er mwyn cyflymu'r broses o droi dulliau a yrrir gan ddata yn brosesau rheoli tir y gellir eu gweithredu ar raddfa fawr.
