Ein cyfleusterau

Amgylchedd unigryw ar gyfer profion yn y byd go iawn 

Mae ANTUR yn cwmpasu 500 hectar o dirwedd ucheldir sy’n cynnwys mwy na 10 km o lwybrau, gan gynnig amrywiaeth o amgylcheddau y byddai’n anodd eu hail-greu mewn mannau eraill ym Mhrydain.

Mae’r safle'n cynnwys: 

  • Porfeydd a thir cymysg 
  • Llethrau serth a newidiadau yn y graddiant 
  • Mawnogydd a gwlyptir 
  • Llwybrau cul a micro-amgylcheddau heriol 
  • Gweithdy roboteg dan do  
  • Gweithdai maes gyda chysylltiadau â’r rhyngrwyd  

Mae'r amrywiaeth hon yn gwneud ANTUR yn ddelfrydol ar gyfer cynnal profion ar: 

  • Robotiaid oddi ar y ffordd ac ar dirweddau garw  (UGVs a UAVs)
  • Roboteg amgylcheddol ac amaethyddol 
  • Synwyryddion a systemau cyfathrebu  
  • Llwyfannau chwilio ac achub, a llwyfannau diogelwch  

Cynlluniwyd ar gyfer cynnal profion 

Mae ANTUR yn ddelfrydol i sefydliadau sydd angen symud y tu hwnt i arddangosiadau dan reolaeth tuag at brofion trylwyr yn y maes y gellir eu hail-gynnal.

Gallwn gynnig: 

  • Profion gwydnwch ar gyfer symudedd, llywio, ac ymreolaeth 
  • Treialon dygnwch a thros bellteroedd mawr 
  • Cloriannu synwyryddion a chanfod graddiant tirweddau o dan amodau amrywiol 
  • Profi cyfathrebu ar draws tirweddau helaeth a chymhleth 

Gall eich profion cael cefnogaeth gan ein harbenigwyr academaidd er mwyn dylunio treialon cadarn, hel data ystyrlon, a phwyso a mesur y canlyniadau.