Profi roboteg ar raddfa fawr yn y byd go iawn

Cyfle i brofi systemau ymreolaethol ar dirweddau eithafol yn y byd go iawn 

Mae Tirweddau Naturiol Aberystwyth ar gyfer Roboteg Ddigyfyngiad (ANTUR) ymhlith yr amgylcheddau awyr agored helaethaf a mwyaf heriol ar gyfer profi roboteg yng ngwledydd Prydain. Mae ANTUR yn helpu sefydliadau i roi prawf ar robotiaid ymreolaethol, synwyryddion a systemau cyfathrebu ar raddfa fawr ar dirweddau ucheldirol heriol ac amrywiol — a hynny gyda chefnogaeth yr arbenigwyr academaidd a’r adnoddau arbenigol sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Pan nad yw labordai dan do, efelychiadau, a safleoedd profi bychain yn ddigonol, mae ANTUR yn darparu'r amodau go iawn sy'n angenrheidiol i asesu perfformiad, cadernid ac ymreolaeth. 

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ar gyfer cynnal profion neu ymchwil:

Tirwedd Naturiol Aberystwyth ar gyfer Roboteg Ddigyfyngiad (ANTUR) yw un o gyfleusterau mwyaf blaenllaw Prydain ar gyfer profion ar roboteg yn yr awyr agored, yn cynnig 500 hectar o dir ucheldirol heriol yng nghanolbarth Cymru ar gyfer cloriannu systemau ymreolaethol, roboteg oddi ar y ffordd, synwyryddion a thechnolegau cyfathrebu yn y byd go iawn. Nod ANTUR yw pontio rhwng yr efelychu a’r defnydd ymarferol drwy galluogi profion trylwyr yn y maes, treialon o bell, a dilysu amgylcheddol ar gyfer cymwysiadau roboteg, amaeth-dechnoleg, technoleg amddiffyn a monitro amgylcheddol. Gyda chymorth ymchwil o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn helpu sefydliadau i ddylunio, profi a mireinio systemau mewn amodau cymhleth ac anrhagweladwy.

Dewch i weld sut mae ANTUR yn gallu cynorthwyo â’ch prosiect chi | Dysgwch fwy am ein harbenigedd academaidd | Dysgwch fwy am ein cyfleusterau