Gweithio gyda ni
Sut mae sefydliadau'n gweithio gyda ni
Mae ANTUR yn cynnig amryw fodelau, gan gynnwys:
- Llogi adnoddau ar gyfer profion dan eich arweiniad eich hunan
- Profion â chymorth sy’n cynnwys mewnbwn gan academyddion
- Ymchwil ar gontract a chloriannu technegol
- Ymgynghoriaeth ac astudiaethau dichonoldeb
- Prosiectau ymchwil cydweithredol a chynigion cyllid ar y cyd
Rydym yn gweithio gyda chwmnïau, cyrff llywodraethol, a phartneriaid academaidd o'r DU ac yn rhyngwladol.
Y sectorau rydyn ni'n eu cefnogi
ANTUR is used by organisations working in:
- Technoleg amaeth a roboteg ar y tir
- Amddiffyn a Diogelwch
- Monitro ac arolygu amgylcheddol
- Ymreolaeth a symudedd oddi ar y ffordd
- Synwyryddion a systemau cyfathrebu
Os oes rhaid i'ch system allu gweithredu y tu hwnt i arwynebau llyfn ac amgylcheddau sydd dan reolaeth, gall ANTUR helpu i bontio'r bwlch rhwng y labordy a’r byd go iawn.
Adnoddau a chymorth
Mae ein hadnoddau'n cynnwys:
- Gweithdy roboteg dan do (ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar gampws Penglais)
- Gweithdai maes gyda chysylltiadau trydan a’r rhyngrwyd
- Mynediad dan reolaeth i ardaloedd profi
Gall defnyddwyr hefyd fanteisio ar arbenigedd ymchwil Prifysgol Aberystwyth i gael cefnogaeth ar faterion fel:
- Dylunio arbrofion
- Offeryniaeth a chasglu data
- Cloriannu perfformiad
- Datblygu a mireinio drwy ail-gynnal profion
